SL(6)137 – Cod Diwygiedig ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol

Cefndir a Diben

Mae'r Cod Diwygiedig ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol (“y Cod”) yn rhoi arweiniad ar gynnwys, arddull, dosbarthiad a chost cyhoeddusrwydd awdurdodau lleol. Mae’r Cod yn cael ei ddiweddaru a’i ddiwygio i adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd ers cyhoeddi’r Cod diwethaf yn 2014.

Mae adran 4(1) o’r Ddeddf honno yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, a ddiffinnir yn adran 6(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986, roi sylw i’r Cod wrth wneud unrhyw benderfyniad ar gyhoeddusrwydd. Diffinnir “cyhoeddusrwydd” yn adran 6(4) o Ddeddf 1986 fel ‘unrhyw gyfathrebiad, ym mha bynnag ffurf, sydd wedi’i gyfeirio at y cyhoedd yn gyffredinol neu at adran o’r cyhoedd’.

Bwriedir i’r diwygiadau i’r Cod gael eu gwneud a dod i rym erbyn 18 Mawrth 2022 fan bellaf.

Gweithdrefn

Drafft Negyddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft), a daw’r Cod i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r cod hwn.

1.     Mae fersiwn 2014 o’r Cod yn ei gwneud yn glir ei fod yn ddiwygiad o God blaenorol. Er enghraifft, mae paragraff cyntaf Cod 2014 yn cyfeirio ddwywaith at y Cod fel diwygiad. Fodd bynnag, ni wneir y gwahaniaeth hwn yn y fersiwn hon o'r Cod, sydd yn hytrach yn cyfeirio at gyhoeddi'r Cod yn unig. Mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig gan nad yw’r weithdrefn negyddol ond yn berthnasol pan gaiff y Cod ei ddiwygio, yn unol ag adran 4(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986. Er y nodir bod y Memorandwm Esboniadol yn ei gwneud yn glir mai diwygiad yw’r Cod, ceisir eglurhad ynghylch pam mae’r fersiwn hon o’r Cod yn defnyddio dull gwahanol i God 2014 drwy beidio â gwneud yn glir mai diwygiad ydyw.

 

2.     Mae paragraffau 34 a 42 yn nodi y dylai unrhyw ddeunydd a gynhyrchir “roi sylw” i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a dylid ei gynhyrchu “yn unol â” Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Gofynnir am eglurhad ynghylch pam y dylid cynhyrchu deunydd “yn unol â” Mesur 2011 ond dim ond “rhoi sylw” i Ddeddf 2010.

 

3.     Mae paragraff 19 o'r Cod yn cyfeirio at “adran 142(A) o Ddeddf 1972”. Ymddengys y dylai ddarllen “adran 142(1A) o Ddeddf 1972” (pwyslais wedi'i ychwanegu). Mae'r gwall hwn hefyd yn digwydd yn fersiwn Gymraeg y Cod ac ymddengys ei fod wedi'i gario drosodd o fersiwn 2014 o'r Cod.

 

4.     Nodwn yr anghysondebau a ganlyn rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cod:

a.     Ym mharagraff 7, mae'r fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at adolygu strategaethau'n rheolaidd. Fodd bynnag, mae'r fersiwn Saesneg yn cyfeirio at adolygiadau (nid adolygiadau rheolaidd);

b.    Ym mharagraff 20 o'r fersiwn Gymraeg, ymddengys y dylai “prif aelod etholedig o’r cyngor” fod yn “aelod etholedig o’r prif gyngor”;

c.     Ym mharagraff 26, mae’r fersiwn Gymraeg yn cyfeirio at “a/neu ddenu rhai newydd”. Fodd bynnag, mae'r fersiwn Saesneg yn cyfeirio at “or attract new ones” (nid “and/or attract new ones”).

 

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 1 i 3 uchod.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Ionawr 2022